Central Chambers set for new lease of life thanks to National Lottery funding
Plans to bring a Newport city centre building back into use are set to become reality after Pobl Group was awarded almost half a million pound in funding from The National Lottery Community Fund, the largest funder of community activity in the UK.
Central Chambers on Stow Hill will be the base for a new multipurpose, wellbeing facility, that will bring Health on the High Street opportunities to the City Centre, after Pobl secured a total of £499,490 across the next three years.
The scheme will see the creation of a new hub, that will transform the supported living services offered by Pobl, providing a vibrant, accessible and flexible space for people with additional needs and the wider local community to access.
Plans have been drawn up in conjunction with community groups and individuals supported by Pobl, and the Central Chambers hub will incorporate a working kitchen for skill building and skill sharing, a café style area and a space for exercise programmes, along with a community launderette and space for pop-up businesses. It is anticipated that individuals supported by Pobl will enjoy volunteering and employment opportunities within the scheme.
National Lottery players raise over £30 million a week for good causes across the UK. The National Lottery Community Fund distributes a share of this to projects to support people and communities to prosper and thrive.
Samantha Howells, Area Regeneration Manager East, Pobl Group, said:
“Thanks to National Lottery players, this grant means that we can bring back into public use this city centre building as a multi-functional facility for the whole community, supporting Newport Council’s city centre regeneration plan. As well as providing training and employment opportunities for the individuals we support the facility will provide a warm open space for anyone who needs it, to wash your clothes, freshen up, get a bite to eat, volunteer or simply ‘just be’ in a place where you are safe and welcomed. “
Charlotte Coulson, Pobl Care & Support, said:
“This is an exciting scheme that will transform the independent living support we provide, with support workers accessible at a central, community location. We have worked with our colleagues in Pobl’s regeneration team and consulted with the people we support to re-imagine this space into a vibrant, flexible facility for people with additional needs and the wider local community to access.
“We are extremely grateful for the National Lottery funding which has helped to make it possible. This will make a big difference to people’s lives.”
Pictured L-R are: Emma Butler (Pobl Care & Support), Andrew Jones, Cath Vlahos, Malcolm Wilson, Dave Creter (Washstation) Samantha Howells ( Area Regeneration Manager, Pobl Group), Adam Thomas, Charlotte Coulson (Pobl Care & Support), Gareth Seaborne (Kingfisher)
During the pandemic, in 2020 alone, The National Lottery Community Fund distributed almost £1 billion to charities and community organisations across the UK.
National Lottery players raise over £30 million each week for good causes throughout the UK. Since The National Lottery began in 1994, £43 billion has been raised for good causes. National Lottery funding has been used to support over 635,000 projects – 255 projects per postcode area.
Website │Twitter │Facebook │Instagram
To find out more visit www.TNLCommunityFund.org.uk
Adeilad Central Chambers yn barod am ail wynt diolch i nawdd gan y Loteri Genedlaethol
Mae cynlluniau i ailgychwyn defnyddio adeilad yng nghanol dinas Casnewydd ar fin cael eu gwireddu ar ôl i Grŵp Pobl gael nawdd gwerth bron iawn hanner miliwn o bunnoedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU.
Adeilad Central Chambers ar Stow Hill fydd lleoliad cyfleuster llesiant amlbwrpas newydd a fydd yn cynnig cyfleoedd Iechyd ar y Stryd Fawr yng Nghanol y Ddinas, ar ôl i Grŵp Pobl sicrhau cyfanswm o £499,490 dros y tair blynedd nesaf.
Bydd y cynllun yn creu canolfan newydd a fydd yn trawsnewid y gwasanaethau byw â chymorth a gynigir gan Grŵp Pobl, gan ddarparu lle bywiog, hygyrch a hyblyg y gall pobl sydd ag anghenion ychwanegol a’r gymuned leol ehangach ei ddefnyddio.
Mae cynlluniau wedi’u llunio ar y cyd â grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n cael cymorth gan Grŵp Pobl, a bydd canolfan Central Chambers yn cynnwys cegin waith at ddibenion meithrin sgiliau a rhannu sgiliau, lle tebyg i gaffi a lle i gynnig rhaglenni ymarfer corff, ynghyd â londrét gymunedol a lle i fusnesau dros dro. Rhagwelir y bydd unigolion sy’n cael cymorth gan Grŵp Pobl yn mwynhau gwirfoddoli ac yn cael cyfleoedd gwaith yn y cynllun.
Bydd chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu cyfran o’r cyfanswm hwn i brosiectau i gynorthwyo pobl a chymunedau i ffynnu a llwyddo.
Dywedodd Samantha Howells, Rheolwr Adfywio Ardal Dwyrain, Grŵp Pobl:
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r grant hwn yn golygu y gallwn ni ailgychwyn defnydd defnyddio’r adeilad hwn yng nghanol y ddinas er budd y cyhoedd, fel cyfleuster aml-swyddogaeth ar gyfer y gymuned gyfan, gan gefnogi cynllun adfywio canol dinas Cyngor Casnewydd. Yn ogystal â darparu cyfleoedd hyfforddi a gwaith i’r unigolion rydyn ni’n eu cynorthwyo, bydd y cyfleuster yn cynnig lle agored cynnes i bawb y bydd arnynt angen hynny, i olchi eich dillad, ymolchi, cael tamaid i’w fwyta, gwirfoddoli neu fod yn rhywle ble byddwch yn ddiogel ac yn cael croeso.”
Meddai Charlotte Coulson, Gofal a Chymorth Pobl:
“Mae hwn yn gynllun cyffrous a fydd yn trawsnewid y cymorth i fyw yn annibynnol rydyn ni’n ei ddarparu, a bydd gweithwyr cymorth ar gael mewn lleoliad canolog yn y gymuned. Rydyn ni wedi gweithio gyda’n cydweithwyr yn nhîm adfywio Pobl ac wedi ymgynghori â’r bobl rydyn ni’n eu cynorthwyo i ail-ddychmygu’r lle hwn yn gyfleuster bywiog a hyblyg y gall pobl ag anghenion ychwanegol a’r gymuned leol ehangach ei ddefnyddio.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y nawdd gan y Loteri Genedlaethol sydd wedi helpu i wireddu’r cynllun. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.”
Yn ystod y pandemig, yn 2020 yn unig, dosbarthodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol bron £1 biliwn i elusennau a sefydliadau cymunedol ledled y DU.
I gael rhagor o wybodaeth, trowch at www.TNLCommunityFund.org.uk
Ynglŷn â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Ni yw cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU – rydyn ni’n cynorthwyo pobl a chymunedau i lwyddo a ffynnu.
Rydyn ni’n falch o ddyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a chydweithio’n agos â’r Llywodraeth i ddosbarthu grantiau a chyllid hanfodol o raglenni a blaengareddau allweddol y Llywodraeth.
Mae ein nawdd yn arwain at effeithiau cadarnhaol ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rydyn ni’n cefnogi prosiectau sy’n canolbwyntio ar bethau sy’n bwysig, gan gynnwys ffyniant yr economi, cyflogaeth, pobl ifanc, iechyd meddwl, unigrwydd a helpu’r DU i gyflawni Sero Net erbyn 2050.
Diolch i gymorth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae ein nawdd ar agor i bawb. Braint i ni yw gallu cydweithio â sefydliadau sy’n amrywio o’r grwpiau lleol lleiaf hyd at elusennau sy’n gweithredu ledled y DU, gan alluogi pobl a chymunedau i wireddu eu huchelgeisiau.
Bydd chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU. Ers sefydlu’r Loteri Genedlaethol yn 1994, mae £43 biliwn wedi ei godi at achosion da. Mae nawdd y Loteri Genedlaethol wedi’i ddefnyddio i gefnogi dros 635,000 o brosiectau – 255 o brosiectau fesul ardal cod post.